top of page

Croeso i

LLANGOLLEN WLEDIG

Mae’r Cyngor yn gwasanaethu cymunedau Froncysyllte, Garth a Threfor sydd wedi eu lleoli yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae’r dyffryn yn ymestyn am un filltir ar ddeg ac enillodd Statws Treftadaeth y Byd yn 2009. Rydym wedi ein lleoli yn Nyffryn Llangollen ar lannau Afon Dyfrdwy ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’n Gyngor etholedig, gyda phob Cynghorydd yn gwasanaethu am bedair blynedd. Mae 10 Cynghorydd yn gwasanaethu’r tri phentref – Froncysyllte, Garth a Threfor. Er mwyn ariannu gwariant, mae’r Cyngor Cymuned yn praeseptio ei ofynion i’r Cyngor Sir. Dyma’r arian mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei roi i’r Cyngor Cymuned er mwyn iddo ymgymryd â’i waith.

Mae’r holl incwm/gwariant yn cael ei archwilio’n fewnol ac yn allanol bob blwyddyn ac, yn dilyn yr archwiliad, mae copïau o’r cyfrifon ar gael i’r cyhoedd eu darllen ar y wefan hon a thrwy gysylltu â’r Clerc – gweler y manylion isod.

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor ar nos Fawrth cyntaf y mis (ar wahân am egwyl yn ystod mis Awst a mis Ionawr) ac maent yn dechrau am 7.00 yh. Fe’u cynhelir yn eu tro yng Nghanolfan Gymunedol Froncysyllte ac yng Nghanolfan Gymunedol Garth a Threfor fel y gwelir isod. Mae croeso i’r wasg a’r cyhoedd fynychu’r cyfarfodydd.

ABOUT

Gyngor Cymuned

Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte 

Photograph courtesy of Rob Jones

Photograph courtesy of Rob Jones

TREVOR

Dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor 

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor ar nos Fawrth cyntaf y mis (ar wahân am egwyl yn ystod mis Awst a mis Ionawr) ac maent yn dechrau am 7.00 yh. Fe’u cynhelir yn eu tro yng Nghanolfan Gymunedol Froncysyllte ac yng Nghanolfan Gymunedol Garth a Threfor. Mae croeso i’r wasg a’r cyhoedd fynychu’r cyfarfodydd.

Trefor

Lleolir pentref Trefor, sy’n cynnwys pentrefan Pontcysyllte, ar lan ogleddol afon Dyfrdwy ym mhen gogleddol traphont ddŵr Pontcysyllte. Mae glanfa’r gamlas yn Nhrefor yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac maent yn dod i weld traphont ddŵr enwog Thomas Telford, a gwblhawyd ym 1805, ac i gerdded drosti. Mae llawer o fadau gwyliau wrth y lanfa  ac mae lle ar gyfer angori cychod sy’n teithio ar hyd y gamlas.

Garth

Mae pentref Garth yn ymestyn i’r gogledd o’r A539 sy’n mynd o Langollen i Wrecsam ac i fynydd Rhiwabon. Mae’r pentref wedi cael ei ddatblygu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n lle prysur gyda phobl leol ac ymwelwyr yn dod i gerdded ar hyd y Panorama gerllaw, sy’n rhan o lwybr Clawdd Offa.

Mae gan yr ysgol gynradd leol, sy’n gwasanaethu Garth a Threfor, un o’r golygfeydd gorau o unrhyw ysgol ym Mhrydain.

Mae’r capeli wedi cael eu troi’n dai annedd preifat ers amser ond mae Eglwys Trefor yn parhau ar agor. Mae Plas Trefor gerllaw. Bu’n gartref i ddyn busnes lleol ar un adeg ond gwesty sydd yno bellach. 

GARTH

Froncysyllte

Lleolir pentref Froncysyllte ar lan deheuol afon Dyfrdwy, wrth droed mynyddoedd y Berwyn. Saif y pentref ym mhen deheuol Traphont Ddŵr Pontcysyllte, sy’n cynnal camlas Llangollen dros afon Dyfrdwy ac sy’n croesi’r A5, sef y ffordd o Lundain i Gaergybi.

Yn ystod yr haf, mae’r gamlas yn brysur wrth i fadau gwyliau deithio rhwng Llangollen a Chanolbarth Lloegr.

Heddiw, mae’n siŵr mai oherwydd ei Gôr Meibion byd enwog, sydd wedi ennill gwobrau mewn llawer o eisteddfodau a gwyliau, y mae’r pentref yn fwyaf adnabyddus.

FRONCYSYLLTE
Contact

CONTACT

US

Clerk to the Council

Mrs Andrea Evans

 59 Haytor Road

Wrexham

LL11 2PU

Tel: 07950813858

E-mail: clerk.llangollenrural@gmail.com

COUNCILLOR

DETAILS

email us

Success! Message received.

Site visits since January 2019

bottom of page